Siopau Fferm Ynys Môn a Gwynedd
Yn Siopau Fferm Hooton’s, rydym ni eisiau i chi fwynhau ein bwyd fferm ffres a blasus.
Mae ein siopau yn llawn o’n ffrwythau a’n llysiau tymhorol yn ogystal â Chig Eidion Du Cymreig, Cig Oen Cymreig a Phorc a fagwyd ein hunain ac leir maes…dyma gynhyrchion o’r fforch i’r fforc!
Mae pastai cartref, prydau parod, teisennau, bisgedi, jamiau a siytnis blasus yn cael eu gwneud ar y safle hefyd.
Rydym yn gwerthu bwydydd crefftus o ansawdd uchel a gynhyrchwyd yn lleol.
Mae ein staff cyfeillgar, gwybodus wrth law i’ch helpu. Oes gennych chi bryd o fwyd i’w baratoi, neu barti wedi’i drefnu? Fe wnawn ni eich helpu chi i ddod o hyd i’r cynhwysion perffaith!
Er mwyn gostwng eich milltiroedd bwyd, mae gennym dair siop fferm; un ym Mrynsiencyn, Ynys Môn, un drws nesaf i Pringles yn Llainfairpwll, a’r llall yng Nghanolfan Arddio Fron Goch, Caernarfon. Mae parcio am ddim yn y dri leoliad.
Byddem wrth ein boddau yn eich gweld yn fuan!