Ffrwythau a Llysiau
Mae ein hasbaragws a gasglwyd â llaw ar gael yn awr!
Gallai ffrwythau a llysiau a gasglwyd o’n caeau fod yn eich basged siopa o fewn munudau!
Nid yw bwyd yn gallu bod lawer mwy ffres na blasus na hyn!
Rydym yn hadu, plannu ac yn cynaeafu cnydau drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein ffrwythau a’n llysiau yn cael eu tyfu gyda gofal i gael gwell blas. Maen nhw’n faethlon, yn flasus ac yn ffres.
Rydym yn tyfu amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau tymhorol, gan gynnwys:
- Asbaragws a mefus a’n garlleg gwych sydd wedi ennill sawl gwobr!
- Tatws newydd, moron a nionod blasus.
- Neu, yn fwy anghyffredin (ond ddim yn llai blasus!) bresych deiliog, pwmpenni a berwr y dŵr.
- Gallwch hefyd Gasglu eich Ffrwythau a’ch Llysiau eich hun yn ystod misoedd yr haf.
Mae cynhyrchion blasus yn Hooton’s drwy’r flwyddyn! Cliciwch yma i weld ryseitiau tymhorol.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sydd ar gael drwy ddarllen ein bwletinau newyddion ‘Ar y Fferm’, yma ar y wefan ac ar Facebook a Twitter.