Cig a Dofednod
Mae Ynys Môn yn enwog am ei phorfeydd gwych, gan ei gwneud yn lle delfrydol i fagu da byw.
Rydym ni’n falch iawn o fagu a gwerthu Cig Eidion Du Cymreig blasus, brîd gwartheg sy’n deillio o Gymru. Mae ein gwartheg yn pori ar laswellt ac yn cael eu hongian am o leiaf dair wythnos ar ôl iddynt gael eu lladd, gan wneud y cig yn frau ac yn llawn blas. Mae ein cig eidion yn cael eu lladd yn y modd traddodiadol ac yn cael eu gwerthu mewn amrywiaeth eang o doriadau. Rydym ni wir yn credu y gallwch chi flasu’r gwahaniaeth!
Mae ein Porc a fagwyd ar y fferm, yn cael ei fagu oherwydd y blas, mae’r moch yn aml yn mwynhau llysiau blasus, gan gynnwys asbaragws! Rydym yn lladd y moch i amrywiaeth o doriadau a golwythion o borc. Mae coesau a lwynau yn cael eu halltu i ffurfio bacwn a ham. Mae ysgwyddau yn cael eu troi i mewn i’n selsig cartref sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’r amrywiaeth yn cynnwys Hen Gymraeg, Porc a Chennin, Cumberland, a llawer iawn mwy.
Mae ein Cig Oen Cymreig blasus yn dod o’n hŵyn ein hunain. Ŵyn Lleyn yw’r rhan fwyaf ohonynt, brîd lleol iawn. Mae’r ŵyn yn cael eu lladd i doriadau blasus ac maent ar gael drwy gydol y flwyddyn. Rydym hefyd yn cynnig ein cig dafad cartref, sy’n flasus iawn pan gaiff ei goginio’n araf.
Rydym yn gwerthu ieir maes o Capestone Farm…busnes teulu sydd wedi ennill sawl gwobr. Dewiswch o ieir cyfan, yn ogystal â ffiledau brest, cluniau, coesau ac adenydd, ac mae’r cyfan yn cael ei fwtsiera ar y safle.
Y Nadolig, mae gennym ein Gwyddau a’n Tyrcwn buarth a fagwyd gennym ar y fferm hefyd.
Mae gennym amrywiaeth o selsig a byrgyrs sy’n rhydd o glwten ac sy’n rhydd o ychwanegion.
Mae rhywbeth at ddant pawb yma! Mae ein tri chigydd yn ein Siop Fferm ym Mrynsiencyn drwy gydol yr wythnos i gynnig cyngor a chynghorion coginio ac i’ch helpu gydag unrhyw ddarn penodol o gig rydych chi ei angen.
Gallwn ddanfon ein cynnyrch i unrhyw le yn y Deyrnas Unedig…felly nid oes angen i chi fyw’n lleol! Rydym yn defnyddio gwasanaeth cludwr dros nos, sy’n sicrhau y cewch ddewis eich diwrnod, a defnyddir blychau oer a blychau rhewi yn ôl yr angen i sicrhau bwyd ffres. Ffoniwch ni ar 01248 430322 neu defnyddiwch y ffurflen e-bost ar ein tudalen ‘Cysylltwch‘.